Y Dychymyg ?l-Fodern. Rhiannon Marks
- Тип: Текст
- Автор:
- Издательство: Ingram(2020)
- ISBN: 9781786835925
- Язык: Валлийский
- Жанры: Литературоведение, Публицистика
- Описание
- Фрагмент
Cyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy’n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955–). Hon yw’r astudiaeth estynedig gyntaf o’i waith, a rhoddir sylw penodol i’r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 – cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i’r afael ? phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ?l-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i’r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ?l-fodernaidd Gymraeg a’i harwyddoc?d i’n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg ? beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio’r ffin dybiedig rhwng ‘ffaith’ a ‘ffuglen’. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw ? thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur.